Wyau siocled, cwningod, penwythnos gwyliau hir – ond tybed oes ‘na fwy i’r Pasg? Mae’r Pasg yn un o brif ddathliadau’r calendr Cristnogol ond pa mor dda ydym ni’n deall ei ystyr? Pam ydym ni’n dathlu’r Pasg? Pwy oedd yr Iesu? Pam y gwnaeth farw? Wnaeth e wir ddod yn ôl yn fyw? Mae’r cyflwyniad byr hwn yn agor y cwestiynau ynglŷn â marwolaeth ac atgyfodiad yr Iesu i’ch helpu i ddarganfod a phenderfynu …Manteision Allweddol• Cyflwyniad delfrydol i rai sy’n newydd i’r eglwys a’r rhai sydd â chwestiynau am Gristnogaeth a ffydd • Mynd i’r afael â chwestiynau allweddol am yr Iesu • Mae’n ailadrodd stori ddiamser ar amser addas • Offeryn estyn allan deniadol ar gyfer eglwysi • Ar gael mewn fformat cyfleus, fforddiadwy
References
|
|